Termau ac amodau

1. Hawlfraint
Mae Canolfan Dysgu Gydol Oes Gartholwg yn berchen ar yr holl hawliau, gan gynnwys hawlfraint, y y gwedudalennau yma, neu yn rheoli’r cyfryw hawliau, gan gynnwys arwyddlun Canolfan Dysgu Gydol Oes Gartholwg a’r holl destun, llunwedd, graffigau a chelfwaith, at y dibenion hyn oni nodir fel arall.

Mae gweddalennau Gartholwg yn cynnwys cysylltau i lawer o wefannau allanol nad ydynt yn gysylltiedig â’r Ganolfan Dysgu Gydol Oes. Nid yw’r Ganolfan Dysgu Gydol Oes yn gyfrifol am y gwefannau yma ac nid oes ganddi reolaeth arnynt, ac ni ddylid cymryd bod caniatáu cysylltau i wefannau allanol yn argymell nac yn cymeradwyo gwybodaeth, cynhyrchion, neu wasanaethau, y gwefannau allanol.
Pan fyddwch yn cyrchu gweddalennau’r Ganolfan Dysgu Gydol Oes, rydych yn cytuno taw at eich defnydd personol anfasnachol chi yn unig y cewch islwytho’r cynnwys. Ni ddylid defnyddio, copïo, storio, neu drosglwyddo’r deunyddiau ar y gweddalennau yma tu allan i’r Ganolfan Dysgu Gydol Oes heb ganiatâd ysgrifenedig y Ganolfan Dysgu Gydol Oes ymlaen llaw, neu yn unol â Deddf Hawlfraint, Dyluniadau, a Phatentau 1988.

2. Preifatrwydd
Mae’r Ganolfan Dysgu Gydol Oes yn cydnabod taw mater pwysig yw preifatrwydd personol. Rydym yn cefnogi diogelu preifatrwydd ar y Rhyngrwyd fel y mae’n ofynnol gan ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig.

Mae’r datganiad yma yn esbonio pa fathau o wybodaeth bersonol a gesglir pan fyddwch yn ymweld â gwefan y Ganolfan Dysgu Gydol Oes, a sut y caiff yr wybodaeth yma ei defnyddio. Dylech nodi fod gwefan Gartholwg yn darparu cysylltau i wefannau eraill, a bod y polisi yma yn gymwys i weddalennau’r Ganolfan Dysgu Gydol Oes yn unig.

Ni chaiff gwybodaeth bersonol ei chipio na’i storio drwy wefan Gartholwg heb gydsyniad defnyddwyr ymlaen llaw. Lle caiff gwybodaeth bersonol ei chipio (e.e. drwy ffurflenni gwe ar gyfer atborth, ceisiadau, ayyb), ni chaiff yr wybodaeth a ddarparwch chi i fi ei defnyddio at unrhyw ddiben ond yr un a ddatgenir ar yr adeg y gofynnwn ni amdani. Ni fyddwn ni yn gwerthu, trwyddedu, na masnachu eich gwybodaeth bersonol i eraill. Ni fyddwn ni yn darparu eich gwybodaeth bersonol i gwmnïau marchnata uniongyrchol nac i gyrff eraill o’r fath.

Pan fydd gwefan Canolfan Dysgu Gydol Oes yn cael ei defnyddio bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn cadw cofnod o weithgaredd ei gweinyddion. Mae’r ffeiliau cofnodion yma yn cynnwys cyfeiriad Protocol Rhyngrwyd pob cyfrifiadur a ddefnyddir i gyrchu gwefan Gartholwg. Defnyddir y ffeiliau cofnodion yma er mwyn dadansoddi’r defnydd o wefan Gartholwg. Mae gwybodaeth bellach am hyn i’w chael ar eu gwefan hwy.

I gloi, pwysig yw nodi y gellir ei wneud yn ofynnol mewn rhai amgylchiadau i’r Ganolfan Dysgu Gydol Oes ddatgelu gwybodaeth, neu i ymgymryd â monitro mwy manwl, o dan Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000.
 

pen y dudalen