Cyfleusterau

Mae gennym gyfleusterau modern yng Ngartholwg ac mae'r Ganolfan ar agor ar yr amseroedd isod:

Oriau Agor:

Llun - Iau
9:00am - 9:30pm

Gwener
9:00am - 7:30pm

* heb law bod digwyddiad ymlaen a fyddai’n golygu ein bod ar agor yn hwyrach.
 

Mae rhestr o'r cyfleusterau isod:

Gwegaffi

Mae gennym 20 cyfrifiadur modern a gellir eu defnyddio yn rhad ac am ddim. I ddefnyddio’r cyfrifiaduron mae’n rhaid cofrestru oni bai eich bod yn aelod o Wasanaeth Llyfrgell Rhondda Cynon Taf sydd yn caniatau i chi ddefnyddio yr un enw defnyddiwr a chyfrinair.

Mae’r caledwedd a’r meddalwedd canlynol ar gael:
CD writer, meddalwedd darllen DVD, Microsoft Office 2003 (Saesneg a Chymraeg), Internet Explorer.

Mae modd argraffu ar un o ddau argraffydd laser gydag un o’r rhain yn lliw.

Mae angen talu am y nwyddau a ddefnyddir - 10c am am gopiau du a gwyn a 50c am gopiau lliw.

Gellir defnyddio C.Dd’au neu USB personol a gellir eu prynu yn y dderbynfa.

Café Blas

Cafe Blas

Mae Café Blas yn cynnig croeso cynnes ac amrywiaeth eang o goffi. Fel arbenigwyr mewn cynnyrch lleol Cymreig mae'r Caffi yn cefnogi cynnyrch Masnach Deg a gallwch fwyta, siarad, cymdeithasu neu weithio ar un o'r cyfrifiaduron newydd mewn awyrgylch braf.

Brechdanau ▪ Panini ▪ Coffi Barista ▪ Salad
Tatws Trwy Crwyn ▪ Teisennau

Mae oriau agor y caffi fel a ganlyn:
Llun - Iau 9:30am - 8:00pm (Tymor ysgol)
Dydd Gwener 9:30am - 3:00pm (Tymor ysgol)

Theatr

Mae gan y theatr:

Hyd at 100-150 o seddi
Adnoddau taflunio (DVD, VHS a PowerPoint)
Llwyfan symudol
Offer goleuo a sain
Piano mawr.

Ystafell gyfrifiaduron

Ystafell gyfrifiaduron

Mae gan yr ystafell gyfrifiaduron 24 cyfrifiadur newydd ac offer uwchdaflunio.

Mae gan bob cyfrifiadur y meddalwedd canlynol: Microsoft Office 2003, Internet Explorer, Adobe Photoshop CS3.

Stiwdio ddawns

Ystafell aml bwrpas gyda drychau gwydr. Mae’r llawr yn addas ar gyfer pob math o ddawnsio. Mae gan y stiwdio ddewis bach o oleuadau ynghyd a bwrdd gwyn rhyngweithiol.

Neuadd Chwaraeon

Jiwdo yn y Neuadd Chwaraeon

Mae gan y Ganolfan neuadd chwaraeon gynhwysfawr a ellir ei llogi yn ogystal â'r adnoddau isod:

Adnoddau eraill

Ystafelloedd dosbarth, sesiynau hyfforddi a chynadledda, priodasau, gwleddau, cae chwaraeon bob tywydd, cae chwarae pêl-droed, cyrtiau tenis gyda llif oleuadau, cyrtiau pêl-rwyd, cyrtiau badminton, ystafell ffitrwydd, stiwdio ddrama, cyngherddau, sioeau ffasiwn, partion plant, ystafell achlysuron gyda bar, canolfan ieuenctid ac ystafell ffotograffiaeth dywyll.

Llogi

Am wybodaeth bellach ynglyn â llogi cysylltwch â ni.

Costau

Dyma restr o'r prisau llogi ystafell/adnoddau yn y Ganolfan. Mae’r pris yn gywir ar y dyddiad cyhoeddi.

Ystafell Prisiau yr awr
Ystafelloedd dysgu £10
Ystafell serameg £20
Ystafell celf a dylunio £10
Ystafell ffotograffiaeth dywyll £15
Ystafell gyfrifiaduron £12.50
Ystafell ensemble £10
Ystafell gyfarfod £10
Stiwdio recordio (gan gynnwys gwasanaeth y technegydd sain) £25
Stiwdio/Theatr (fel gofod perfformio) £160 (am 4 awr)
Stiwdio/Theatr (fel gofod ymarfer) £20
Ystafell achlysuron £20

D.S. Mae grwpiau cymunedol lleol yn medru cael gostyngiad o 50% ar y prisiau uchod.

Ychwanegir TAW i’r prisiau yma pan yn addas.

I lawrlwytho copi ‘Manylion yr Adnoddau’ cliciwch yma.

pen y dudalen