Amdanom ni
Agorodd y Ganolfan Dysgu Gydol Oes ym mis Medi 2006. Mae’n rhan o Gampws Cymunedol Gartholwg, datblygiad o sawl miliwn ym Mhentre’r Eglwys. Dyma rannau eraill y Campws:
- Ysgol Gyfun Gartholwg (Adeilad newydd yn lle Ysgol Gyfun Rhydfelen)
- Ysgol Gynradd Gymraeg Garth Olwg
- Meithrinfa Garth
- Llyfrgell Gymunedol Pentre’r Eglwys
- Canolfan Ieuenctid Gartholwg
Cafodd y Campws ei ddatblygu o dan fenter cyllid preifat. Mae'r adeilad yn
berchen i 2003 Schools Service Cyf. ac fe logir yn ôl i Gyngor Bwrdeistref Sirol
Rhondda Cynon Taf am bris a gytunwyd arno dros gyfnod o 25 mlynedd. Dros y 25
mlynedd nesaf Jarvis Accommodation Services (JAS) fydd yn gyfrifol am waith cynnal a chadw
yr adeilad, yn ogystal â gofalu am
yr adeiladau, diogelwch, glanhau, cynnal a chadw, TGCh, gwasanaethau reprograffig a
darpariaeth arlwyo ar y safle. Mae’r gwasanaeth yma wedi’i is-gontractio i
Catering Direct.
Mae’r contract wedi pennu’n glir yn ystod pa oriau y bydd gan y partneriaid
fynediad i’r adeiladau. Tu allan i’r oriau hyn, bydd yr adeiladau yn dychwelyd i
JAS, a bydd hawl gyda hwy i logi’r fangre i drydydd partïon. Yn ogystal â
hynny, rhaid gwneud pob archeb am ddefnyddio’r cyfleusterau chwaraeon drwy JAS.
Nod y Ganolfan Dysgu Gydol Oes yw darparu amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu
gydol oes, gan gyflawni nifer o wahanol swyddogaethau. Mae Rheolwr y Ganolfan
Dysgu Gydol Oes yn atebol i Bennaeth a Bwrdd Llywodraethu Ysgol Gyfun Gartholwg,
ac mae’n aelod o Uwch Dîm Rheoli’r Ysgol.
Yn ogystal â hyn mae Pwyllgor Budd-ddeiliaid gan y Ganolfan Dysgu Gydol Oes. Mae
hyn yn cynrychioli cynrychiolwyr o’r gymuned leol, ac amrywiaeth eang o
ddarparwyr hyfforddiant a darparwyr cyngor sy’n cyflwyno gwasanaethau yn y
Ganolfan. Bydd y Ganolfan yn ymgynghori â’r Pwyllgor yma ar amrywiaeth o
faterion sy’n effeithio ar y Ganolfan, ei gweithgareddau, a’i chynlluniau at y
dyfodol.



